Beti A'i Phobol
John Phillips
- Autor: Vários
- Narrador: Vários
- Editor: Podcast
- Duración: 0:46:48
- Mas informaciones
Informações:
Sinopsis
Treuliodd John Phillips flynyddoedd yn gweithio ym myd addysg.Bu'n athro, yn swyddog addysg bellach, yn ddirprwy gyfarwyddwr addysg, a hefyd yn gyfarwyddwr addysg.Yn Sir Aberteifi, ac yna yn Nyfed, roedd yng nghanol y trafod a’r dadlau ynglŷn ag addysg Gymraeg yn y 60au a’r 70au.Cafodd ei eni a'i fagu yng Ngwauncaegurwen, yn fab i löwr, a mae ganddo atgofion melys o'r gymuned lofaol, a chof plentyn o Abertawe'n cael ei bomio'n ystod yr Ail Ryfel Byd.Yn yr ysgol ramadeg daeth dan ddylanwad Eic Davies, cyn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.Y peth gorau am y coleg, meddai John, oedd cwrdd â Bethan, a ddaeth yn wraig iddo'n ddiweddarach.Gweithiodd y ddau yn Llundain am gyfnod, cyn penderfynu dychwelyd i Gymru, ac i Geredigion yn y pen draw.Mae dementia wedi achosi dirywiad yn iechyd Bethan yn y blynyddoedd diwethaf, a mae John yn sôn wrth Beti am ei ymdrech i sicrhau gofal llawn amser iddi.