Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#105 - Gwella Effeithlonrwydd ar fferm Glascoed, Y Drenewydd
- Autor: Vários
- Narrador: Vários
- Editor: Podcast
- Duración: 0:36:18
- Mas informaciones
Informações:
Sinopsis
Cyfle arall i glywed trafodaeth yn ystod y digwyddiad hwn ar y fferm Glascoed. Bydd yr arbenigwraig defaid, Kate Phillips yn arwain y drafodaeth rhwng Alwyn a Dylan Nutting ac yn son am ganfyddiadau’r adolygiad a gynhaliwyd yn Glascoed i nodi meysydd cyfleoedd ar gyfer optimeiddio pellach a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Alwyn a Dylan yn rhannu sut mae gwneud y defnydd gorau o borthiant ac ymgorffori gwndwn aml-rywogaeth yn eu rhaglen bori cylchdro wedi chwarae rhan mewn cyflawni gostyngiad nodedig mewn mewnbynnau allanol wrth gynnal lefelau cynhyrchu. Yn ymuno hefyd yn y sgwrs bydd Non Williams, Swyddog Arbenigol Carbon Cyswllt Ffermio fydd yn trafod y cysylltiad rhwng gwella effeithlonrwydd cyffredinol fferm a’i hôl troed carbon. Rydym yn ymddiheurio nad yw ansawdd y sain yn ddelfrydol yn y rhifyn yma gan fod hi'n ddwrnod gwyntog iawn ar fferm Glascoed.