Sinopsis
Ear to the Ground’ is a brand-new podcast, the first of its kind to be available in both Welsh and English, that will share technical information, advice, support and inspiration to the farming community in Wales. Mae “Clust i’r Ddaear” yn bodlediad newydd sbon, y cyntaf o’i math i fod ar gael yn Gymraeg a Saesneg, fydd yn rhannu gwybodaeth dechnegol, cyngor, cefnogaeth ac ysbrydoliaeth i’r gymuned amaeth yng Nghymru.
Episodios
-
#92 - An insight into the current situation in terms of the carbon footprint of beef and sheep farms in Wales
28/01/2024 Duración: 41minCennydd Jones is joined by Non Williams, Carbon Specialist Officer at Farming Connect. This episode is based on the findings of carbon footprint audits completed on 185 beef and sheep farms through the Farming Connect Advisory Service. The purpose of this short study was to summarize the results of these inspections completed in 2022 in order to extract useful figures that will give insight into the current situation in terms of the carbon footprint of beef and sheep farms in Wales. A Farming Connect study on greenhouse gas (GHG) emissions produced by red meat enterprises has shown that Welsh farms are below the benchmark for similar farms across the UK. Listen for more information! Useful links- New GHG study points to encouraging results for Welsh beef and sheep farms Advice Contact us Event- MASTER CARBON FOOTPRINT: WHAT IS IT ALL ABOUT?
-
#92 - Mewnwelediad i'r sefyllfa bresennol o ran ôl-troed carbon ffermydd bîff a defaid yng Nghymru
28/01/2024 Duración: 43minMae Cennydd Jones yn cael cwmni Non Williams, Swyddog Arbenigol Carbon, Cyswllt Ffermio. Mae'r rhifyn hwn yn seiliedig ar ganfyddiadau archwiliadau ôl-troed carbon a gwblhawyd ar 185 o ffermydd bîff a defaid drwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio. Pwrpas yr astudiaeth fer hon oedd crynhoi canlyniadau’r archwiliadau hyn a gwblhawyd yn 2022 er mwyn echdynnu ffigyrau defnyddiol a fydd yn rhoi mewnwelediad i'r sefyllfa bresennol o ran ôl-troed carbon ffermydd bîff a defaid yng Nghymru. Mae astudiaeth Cyswllt Ffermio ar allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG) a gynhyrchir gan fentrau cig coch wedi dangos bod ffermydd Cymru yn is na’r meincnod ar gyfer ffermydd tebyg ar draws y DU. Gwrandewch am fwy o wybodaeth! Dolenni defnyddiol- Astudiaeth newydd ar Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr yn awgrymu canlyniadau calonogol i ffermydd bîff a defaid Cymru Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio Cysylltwch a ni Digwyddiad- MEISTR AR ÔL TROED CARBON: BETH MAE HYN YN EI OLYGU?
-
#91 - Unearthing another potential opportunity in rural Wales
24/12/2023 Duración: 30minThis episode will expose the potential opportunity within the commercial ornamental industry. As part of the horticulture sector, according to a recent report from Tyfu Cymru It employees 19,800 people here in Wales and generates 40 million pounds worth of production at farm gate prices. Geraint Hughes is joined by Neville Stein MBE and Sarah Gould. Neville has spent 46 years within the horticulture industry and has been working as a consultant for growers world wide. This half an hour long episode will share a vision of how this sector has massive demand and opportunity that can play an important part in the vibrancy of the rural sector in Wales.
-
#91 - Datgelu cyfle posibl arall yng nghefn gwlad Cymru
24/12/2023 Duración: 30minBydd y bennod hon yn amlygu'r cyfleoedd posibl o fewn y diwydiant addurniadol masnachol. Fel rhan o’r sector garddwriaeth, yn ôl adroddiad diweddar gan Tyfu Cymru mae’n cyflogi 19,800 o bobl yma yng Nghymru ac yn cynhyrchu gwerth 40 miliwn o bunnoedd o gynhyrchiant am brisiau gât y fferm. Yn ymuno â Geraint Hughes mae Neville Stein MBE a Sarah Gould. Mae Neville wedi treulio 46 mlynedd yn y diwydiant garddwriaeth ac wedi bod yn gweithio fel ymgynghorydd i dyfwyr ledled y byd. Bydd y bennod hanner awr hon o hyd yn rhannu gweledigaeth o sut mae gan y sector hwn alw a chyfle enfawr a all chwarae rhan bwysig yn ffyniant y sector gwledig yng Nghymru.
-
#90 - Diversification opportunities within the horticulture industry in Wales
10/12/2023 Duración: 34minA recent report suggests that we produce 3.5% of the fruit and veg we consume as a population here in Wales. If you're a farmer looking to diversify or add another enterprise on farm this podcast could incentives you to look at the options. Join our three panellists- John Morris and his family from Crickhowell have 8 enterprises on the farm, he describes himself as a 'land use operator' being able to generate an income from a relatively small farm through several diversification initiatives. We also here from Edward Morgan, representing Castell Howell Foods that are this year celebrating 35 years of business and have grown to become Wales’ leading independent food service wholesaler. Edward outlines the possible opportunities and gaps in the market that we should consider. Sarah Gould, Horticulture Manager at Lantra outlines how Farming Connect can assist if this episode has resonated with you!
-
#90 - Cyfleoedd i arallgyfeirio o fewn y diwydiant garddwriaeth yng Nghymru
10/12/2023 Duración: 34minMae adroddiad diweddar yn awgrymu ein bod ni’n cynhyrchu 3.5% o’r ffrwythau a’r llysiau rydyn ni’n eu bwyta fel poblogaeth yma yng Nghymru. Os ydych yn ffermwr sydd am arallgyfeirio neu ychwanegu menter arall ar y fferm, gallai'r podlediad hwn eich cymell i edrych ar yr opsiynau. Ymunwch gyda'r tri sydd ar y panel - Mae gan John Morris a'i deulu o Grucywel 8 menter ar y fferm, mae'n disgrifio ei hun fel 'gweithredwr defnydd tir' sydd yn cynhyrchu incwm o fferm gymharol fach trwy sawl menter arallgyfeirio. Rydym hefyd yn clywed wrth Edward Morgan, yn cynrychioli Castell Howell Foods sydd eleni yn dathlu 35 mlynedd o fusnes ac sydd wedi tyfu i fod yn brif gyfanwerthwr gwasanaeth bwyd annibynnol Cymru. Mae Edward yn amlinellu’r cyfleoedd a’r bylchau posibl yn y farchnad y dylem eu hystyried. Mae Sarah Gould, Rheolwr Garddwriaeth yn Lantra yn amlinellu sut y gall Cyswllt Ffermio helpu os yw'r rhifyn hwn wedi taro deuddeg gyda chi!
-
#89 - Is joint venture the answer to an ageing industry?
26/11/2023 Duración: 26minPanel discussion between Agri Academy members that have formed their own joint venture agreements, Anna Bowen, Andersons Centre and Eiry Williams of Farming Connect
-
#89 - Ai menter ar y cyd yw’r ateb i ddiwydiant sy’n heneiddio?
26/11/2023 Duración: 26minTrafodaeth banel rhwng aelodau’r Academi Amaeth sydd wedi llunio eu cytundebau menter ar y cyd ei hunain, Anna Bowen, Andersons Centre ac Eiry Williams o Cyswllt Ffermio
-
#88 - Woodland management and adding value to timber at From Haul, Abergele
12/11/2023 Duración: 37minOur Forestry & Farm Woodland Specialist, Geraint Jones is joined by David Brown and Ruth Pybus prior to welcoming other farmers to their event at Fron Haul on the 17th of November. Fron Haul is a mixed farm that has integrated tree's with livestock to form a fundamental part of the business. For a preview of what to expect on their farm walk and to discover sustainable woodland management working listen to this episode.
-
#88 - Rheoli coetir ac ychwanegu gwerth at goed yn From Haul, Abergele
12/11/2023 Duración: 37minBydd David Brown a Ruth Pybus yn ymuno â'n harbenigwr Coedwigaeth a Choetiroedd Fferm, Geraint Jones, cyn croesawu ffermwyr eraill i'w digwyddiad yn Fron Haul ar yr 17eg o Dachwedd. Fferm gymysg yw Fron Haul sydd wedi integreiddio coed gyda da byw i ffurfio rhan sylfaenol o'r busnes. I gael rhagflas o'r hyn i'w ddisgwyl ar eu taith fferm ac i ddarganfod sut i reoli coetir yn gynaliadwy, gwrandewch ar y bennod hon.
-
#87 - A conversation with Dilwyn the vet
05/11/2023 Duración: 12minIn this episode Rhian Price is joined by Dilwyn Evans, farm vet and star of Clarkson’s Farm. Dilwyn was bought up on a dairy farm near Tregaron and has been a farm vet for more than 30 years, having graduated from Edinburgh Vet School in 1986. He has spent most of his career working as a mixed vet at Bridge Vets in Gloucestershire after a brief stint in North Wales. Most recently, Dilwyn made his debut in February when the hit series Clarkson’s Farm returned to our TV screens for a second series.
-
#87 - Sgwrs gyda Dilwyn y milfeddyg
05/11/2023 Duración: 12minYn y bennod hon bydd Dilwyn Evans, milfeddyg fferm a seren Clarkson’s Farm yn ymuno â Rhian Price. Cafodd Dilwyn ei fagu ar fferm laeth ger Tregaron ac mae wedi bod yn filfeddyg fferm ers dros 30 mlynedd ar ôl graddio o Ysgol Filfeddygaeth Caeredin yn 1986 . Mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i yrfa yn gweithio fel milfeddyg cymysg yn Bridge Vets yn Swydd Gaerloyw ar ôl cyfnod byr yng Ngogledd Cymru. Gwnaeth Dilwyn ei ymddangosiad cyntaf ym mis Chwefror ar y gyfres deledu boblogaidd Clarkson’s Farm.
-
#86 - What to consider before diversifying?
15/10/2023 Duración: 44minDavid Selwyn- Landsker is joined by two individuals who have set up novel businesses on farm. Rhys Jones is the founder of a thriving fitness business, Cattle Strength, which delivers a personalised and premium approach to personal training which is served in a private gym facility on a farm in West Wales. Laura Lewis has established Squirrels Nest, one of the UK's most popular treehouse retreats on the family farm in the Heart of Wales.
-
#86 - Beth i'w ystyried cyn arallgyfeirio?
15/10/2023 Duración: 44minMae dau unigolyn sydd wedi sefydlu busnesau newydd ar y fferm yn ymuno â David Selwyn- Landsker. Rhys Jones yw sylfaenydd busnes ffitrwydd llewyrchus, Cattle Strength sydd yn darparu ymagwedd bersonol a phremiwm at hyfforddiant personol mewn campfa breifat ar y fferm yng Ngorllewin Cymru. Mae Laura Lewis wedi sefydlu busnes Squirrels Nest, un o enciliadau gwyliau mwyaf poblogaidd Prydain ar y fferm deuluol yng Nghalon Canolbarth Cymru.
-
#85 - Embracing Change: Claire Jones discusses Dairy Diversification at Pant Farm, Llanddewi Brefi
01/10/2023 Duración: 24minIt’s a pleasure to welcome Claire Jones to the podcast, this episode is recorded at this years Innovation and Diversification event at Builth Wells. If you’re active on social media many would have come across Claire as ‘_farmers_wife_’ on instagram, she does an excellent job of promoting and informing her audience of the busy farming life at Pant Farm Llanddewi which we will delve deeper into during this podcast. Many business are here to establish what Innovation or diversification opportunities they can introduce to their business and we’ll hear within this episode how Claire alongside her husband, Stephen and the family, decided a couple of years ago to diversify from beef and sheep farming to producing milk.
-
#85 - Croesawu newid: Claire Jones yn trafod Arallgyfeirio i laeth ar Fferm Pant, Llanddewi Brefi
01/10/2023 Duración: 24minMae’n bleser croesawu Claire Jones i’r podlediad, mae’r bennod hon wedi’i recordio yn nigwyddiad Arloesi ac Arallgyfeirio eleni yn Llanelwedd. Os ydych chi'n treilio amser ar y cyfryngau cymdeithasol byddwch fwy na thebyg wedi dod ar draws Claire fel '_farmers_wife_' ar instagram, mae'n gwneud gwaith rhagorol o hyrwyddo a hysbysu ei chynulleidfa am fywyd ffermio prysur Fferm Pant Llanddewi, a byddwn yn ymchwilio'n ddyfnach iddo yn ystod y podlediad hwn. Mae llawer o fusnesau yma i weld pa gyfleoedd arloesi neu arallgyfeirio y gallant eu cyflwyno i’w busnes a byddwn yn clywed yn y bennod hon sut y penderfynodd Claire, ynghyd â’i gŵr, Stephen a’r teulu, i arallgyfeirio ychydig flynyddoedd yn ôl o ffermio bîff a defaid i gynhyrchu llaeth.
-
#84 - Staff Management- Episode 1: How to recruit and retain staff
21/08/2023 Duración: 39minIn the first in a series of episodes focusing on staff management, another new presenter to the podcast Rhian Price is joined by Paul Harris, founder of REAL Success, a people consultancy business. Rhian is an award-winning journalist and agricultural PR specialist, she spent 10 years working at Farmers Weekly – seven of them as Livestock Editor before setting up her own Agricultural PR company 'Rhian Price Media'. She now lives on the Shropshire/ Welsh border with her husband and their family on a 280-cow dairy farm. This episode in the series will discuss why farmers find staff recruitment and retention so difficult, and how farmers can attract and retain the best personnel. They also consider what you should do to keep staff happy and motivated.
-
#83 - A conversation with Dr Iwan Owen - Forty years of lecturing grassland management at Aberystwyth University
06/08/2023 Duración: 20minCennydd Jones, a lecturer at Aberystwyth University and a part-time farmer will be joined by Dr Iwan Owen. Iwan is a well-known name to many former Aberystwyth University Agriculture students, where he was a grassland management lecturer for forty years before he took a well-deserved retirement in 2021. In this episode we will hear about his journey to become a lecturer at WAC (Welsh Agricultural Collage), why doing a degree or further education is useful in an industry that many consider practical. We will also have the opportunity to hear his impressions about the future of agriculture in Wales.
-
#83 - Sgwrs gyda Dr Iwan Owen- Deugain mlynedd o ddarlithio rheolaeth glaswelltir ym Mhrifysgol Aberystwyth
06/08/2023 Duración: 21minBydd Cennydd Jones, darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth a ffermwr rhan amser yn cael cwmni Dr Iwan Owen. Mae Iwan yn enw adnabyddus i lawer o gyn-fyfyrwyr Amaeth Prifysgol Aberystwyth, lle bu'n ddarlithydd rheolaeth glaswelltir am ddeugain mlynedd cyn iddo ymddeol yn llawn-haeddiannol yn 2021. Yn y rhifyn hwn fe gawn glywed am ei daith i fod yn ddarlithydd yn WAC (Welsh Agricultural Collage), pam fod gwneud gradd neu addysg bellach yn ddefnyddiol mewn diwydiant y mae nifer yn ei ystyried fel un ymarferol. Fe gawn hefyd gyfle i glywed ei argraffiadau am ddyfodol amaeth yng Nghymru.
-
#82 - Sheep milking in Wales
16/07/2023 Duración: 25minLamb, mutton and wool, those are the products we are familiar with when farming sheep in Wales. Now, we should add sheep's milk to the list, as we see 14 farmers this year milking sheep. Two of these innovative individuals join Geraint Hughes for a conversation. Alan Jones from Chwilog, near Pwllheli and Huw Jones from Llanerchymedd, Anglesey. This edition was recorded from a new processing site, Llaethdy Gwyn in Bethesda, Dyffryn Ogwen, which has been developed by Carrie Rimes specifically to process sheep's milk.