Sinopsis
Podlediad am Ddinas Bangor a phêl-droed yn y byd Cymraeg.
Episodios
-
Mwydro ym Mangor - Pennod 18
21/03/2012 Duración: 11minTro yma, mae yna ddau gyfweliad: yr un cyntaf efo hyfforddwr newydd y tim cenedlaethol Chris Coleman (yn y Saesneg) ac yr ail un efo cefnogwr Dinas Bangor Ian Gill. Am fwy o wybodaeth, ewch i'r tudalen Facebook Mwydro ym Mangor ac i mwydroymmangor.wordpress.com. Cofiwch danysgrifio i'r podlediad trwy iTunes.
-
Mwydro ym Mangor - Pennod 17
22/02/2012 Duración: 10minNid jyst Neville Powell sydd yn rheoli tîm ym Mangor. Tro yma, mae Jonathan Ervine yn siarad efo rheolwr ail dim Dinas Bangor, Haydn Jones. Am fwy o wybodaeth am y podlediad, edrychwch ar mwydroymmangor.wordpress.com. Cofiwch eich bod chi’n medru tanysgrifio i’r podlediad drwy iTunes.
-
Mwydro ym Mangor - Pennod 16
02/02/2012 Duración: 08minTro yma, mae Jonathan Ervine yn trafod stadium newydd Dinas Bangor yn Nantporth efo Richard Williams a Pete Jones. Hefyd, mae'r bennod hon yn cynnwys adroddiad am Dorothy a Florence, yr ieir sydd yn rhagweld canlyniadau'r gemau mawr. Cofiwch tanysgrifio i'r podlediad trwy iTunes.
-
Mwydro ym Mangor - Pennod 15
18/01/2012 Duración: 07minMae pennod yma ydy'r un olaf i gael ei recordio yn Ffordd Farrar. Mae Jonathan Ervine yn siarad efo caplan Dinas Bangor Geraint Roberts ac yn clywed barn Marc Lloyd Williams am y symudiad i Nantporth. Cofiwch tanysgrifio i'r podlediad tryw iTunes ac i sbio ar dudalen Facebook Mwydro ym Mangor.
-
Mwydro ym Mangor - Pennod 14
03/01/2012 Duración: 08minMae Jonathan Ervine yn siarad am y gêm olaf yn Ffordd Farrar efo ysgrifenydd Dinas Bangor Gwynfor Jones, y darlledwr a chefnogwr Bangor Ian Gill, y rheolwr Neville Powell ac y llywydd y clwb Gwyn Pierce Owen. Cofiwch tanysgrifio i'r podlediad tryw iTunes ac edrychwch ar y blog sydd ar mwydroymmangor.wordpress.com.
-
Mwydro ym Mangor - Pennod 13
20/12/2011 Duración: 08minMae yna lawer o bobl sydd wedi sgorio goliau yn Ffordd Farrar dros y flyneddoed. Rhywun sydd wedi sgorio llawer o weithiau efo Bangor, ac yn erbyn Bangor hefyd, yw Marc Lloyd Williams. Ym mhennod yma, mae Jonathan Ervine yn cyfweld 'Jiws' am Ddinas Bangor, sgorio goliau a safon yr Uwch Gynghrair Cymru. Am fwy o wybodaeth, ewch i mwydroymmangor.wordpress.com neu y dudalen Facebook Mwydro ym Mangor.
-
Mwydro ym Mangor - Pennod 12
06/12/2011 Duración: 15minYm mhennod yma, mae Jonathan Ervine yn trafod dilyn Dinas Bangor o bell efo Carwyn Edwards. O ardal Bodedern yn wreiddiol, mae Carwyn yn byw yn Arizona ac yn gwrando i'r sylwebaeth cefnogwyr Radio Bangor (ar gael ar www.bangorcitizens.com). Hefyd, mae Jonathan yn son am ei atgofion o Gary Speed.
-
Mwydro ym Mangor - Pennod 11
22/11/2011 Duración: 08minTro yma, dan ni'n mynd i Nantporth a thrafod cae newydd Dinas Bangor efo swyddogion a chefnogwyr y clwb yn cynnwys Gwynfor Jones, Les Pegler, Ian Gill a Gwyn Pierce Owen. Cofiwch tanysgrifio i'r podlediad tryw iTunes ac edrych ar y dudalen Facebook Mwydro ym Mangor ac y blog ar mwydroymmangor.wordpress.com.
-
Mwydro ym Mangor - Pennod 10
11/11/2011 Duración: 08minYr ail rhan o'r sgwrs efo Ian Gill. Tro yma, mae o'n son am 'Radio Bangor' sydd yn darlledu sylwebaeth cefnogwyr o gêmau Dinas Bangor. Hefyd, mae o'n trafod diwedd Ffordd Farrar, stadiwm Dinas Bangor sydd yn croesawu gêm am y tro olaf ar Rhagfyr 27. Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar mwydroymmangor.wordpress.com neu y grŵp Facebook Mwydro ym Mangor.
-
Mwydro ym Mangor - Pennod 9
25/10/2011 Duración: 09minTro yma, mae Glynne Roberts yn son am lyfyr mae o'n ysgrifennu am hanes Dinas Bangor yn Ffordd Farrar. Hefyd, mae Cwpan y Byd Rygbi wedi rhoi syniad i Jonathan Ervine am sut i wella pêl-droed yng Nghymru. Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar dudalen Facebook 'Mwydro ym Mangor' neu y blog mwydroymmangor.wordpress.com.
-
Mwydro ym Mangor - Pennod 8
12/10/2011 Duración: 10minMae Gareth Williams yn trafod y ffaith bod Dinas Bangor yn glwb sy wedi chwarae yng Nghymru ac yn Lloegr. Hefyd, mae'r ieir sydd yn rhagweld canlyniadau y gemau mawr yn dod yn ol. Am fwy o wybodaeth a fideos, sbiwch ar dudalen Facebook 'Mwydro ym Mangor' neu y blog mwydroymmangor.wordpress.com.
-
Mwydro ym Mangor - Pennod 7
27/09/2011 Duración: 08minMae Dinas Bangor yn symud ond pa fath o stadiwm bydd yna yn Nantporth ble mae'r cae newydd yn cael ei hadeiladu? Mae Gwynfor Jones, ysgrifennydd y clwb yn ateb a chefnogwr o'r enw Gareth Williams yn mynegi ei farn o am y faith bod y clwb yn symud. Am fwy o wybodaeth am bodlediad hwn, edrychwch ar y dudalen Facebook 'Mwydro ym Mangor' neu y blog www.mwydroymmangor.wordpress.com.
-
Mwydro ym Mangor - Pennod 6
13/09/2011 Duración: 10minMae'r darlledwr Ian Gill (Radio Cymru) yn trafod darlledu am bêl-droed a serennau'r Uwch Gynghrair Cymru galluog i ddilyn yn nghamre Robbie Savage a chystadlu ar Strictly Come Dancing. Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar y dudalen Facebook 'Mwydro ym Mangor' neu y blog www.mwydroymmangor.wordpress.com.
-
Mwydro ym Mangor - Pennod 5
30/08/2011 Duración: 08minMae Dafydd Hughes o Gymdeithas Cefnogwyr Dinas Bangor yn trafod pwysigrwydd grwpiau cefnogwyr ac mae llywydd Dinas Bangor Gwyn Pierce Owen yn sôn am ei berthynas efo'r clwb a Ffordd Farrar. Am fwy o wybodaeth am y podlediad, ewch i'r dudalen Facebook 'Mwydro ym Mangor' ac edrych ar y blog mwydroymmangor.wordpress.com. Cofiwch hefyd bod hi'n bosib i danysgrifio i'r podlediad trwy iTunes.
-
Mwydro ym Mangor - Pennod 4
16/08/2011 Duración: 09minMae'r newyddiadurwr chwaraeon Dave Jones (o'r Daily Post) yn trafod pêl-droed a dwy iâr o Langefni yn rhagweld y gêm yn yr Uwch Gynghrair Cymru rhwng Y Bala a Chaerfyrddin. Cofiwch mynd i'r dudalen Facebook 'Mwydro ym Mangor' ac edrych ar y blog mwydroymmangor.wordpress.com.
-
Mwydro ym Mangor - Pennod arbennig o'r Eisteddfod Genedlaethol
06/08/2011 Duración: 15minAr faes yr Eisteddfod yn Wrecsam mae Jonathan Ervine yn trafod pêl-droed yng Nghymru efo Spencer Harris (Ymddiredolaeth Cefnogwyr Wrecsam), Ian Gwyn Hughes (Cymdeithas Pêl-droed Cymru) a Gary Speed, hyfforddwr y Tîm Cenedlaethol. Am fyw o wybodaeth, ewch i dudalen Facebook 'Mwydro ym Mangor' neu mwydroymmangor.wordpress.com.
-
Mwydro ym Mangor - Pennod 3
02/08/2011 Duración: 09minMae Les Pegler yn cofio'r gêm rhwyng Manchester United a Chymru yn Ffordd Farrar yn 1969, a dwy iâr o Langefni yn rhagweld canlyniad y Community Shield (edrychwch ar y fideo ar y dudalen Facebook 'Mwydro ym Mango'r neu y blog: mywydroymmangor.wordpress.com). O hyn ymlaen, mi fydd yna bennod newydd o’r podlediad bob yn ail Ddydd Mercher.
-
Mwydro ym Mangor - Pennod 2
22/07/2011 Duración: 10minSut dach chi'n dweud 'Shoes off if you love Bangor' yn y Ffinneg? Diolch i Gymro o'r enw Glyn Banks sydd yn byw yn Helsinki, mi wnewch chi ffeindio allan os dach chi'n gwrando ar bennod hon am y daith i'r brifddinas y Ffindir ar gyfer y gem yn erbyn HJK Helsinki.
-
Mwydro ym Mangor - Pennod 1
16/07/2011 Duración: 15minPennod cyntaf podlediad am Glwb Pêl-droed Dinas Bangor a phêl-droed yn y byd Cymraeg. Mae Jonathan Ervine yn trafod y gem rhwyng Dinas Bangor a HJK Helsinki efo sylwebydd S4C David James a chyn-myfyrwraig Prifysgol Helsinki Edith Gruber.